People’s Panel for Persistent Pain seeks views
The Welsh Government is interested in hearing more about the experiences of adults who live with persistent pain.
They are looking for people to:
- join a focus group of people living with persistent pain
- join a focus group of people caring for or working with people living with persistent pain
- share your experiences which may be used as a written case study or filmed with your consent for use as a video story.
The focus groups will initially meet twice, on 11 December 2023 and in the new year. As a result of this work the groups may continue to meet a few times a year in the future. The groups will inform Welsh Government on the issues confronting those living with persistent pain and those who support them.
To thank you for sharing your time and your experiences with us, we will cover reasonable expenses and offer those who take part a small gift certificate.
Please take a few minutes to complete the survey and learn more or to register your interest
The survey is open until 30 November 2023.
Panel y Bobl ar gyfer Poen Parhaus
Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb clywed mwy am brofiadau oedolion sy’n byw gyda phoen parhaus.
Rydym ni’n chwilio am bobl i:
- ymuno â grŵp o bobl sy’n byw gyda phoen parhaus
- ymuno â grŵp o bobl sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda phoen parhaus neu’n gweithio gyda nhw
- rhannu eich profiadau y gellir eu defnyddio fel astudiaeth achos ysgrifenedig neu eu ffilmio gyda’ch caniatâd i’w defnyddio fel stori fideo.
Bydd y grwpiau’n cymryd rhan mewn dau grŵp ffocws. O ganlyniad i’r gwaith hwn, gall y grwpiau barhau i gwrdd ychydig o weithiau’r flwyddyn yn y dyfodol. Bydd y grwpiau’n rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y materion mae’r rhai sy’n byw gyda phoen parhaus a’r rhai sy’n eu cefnogi yn eu hwynebu.
I ddiolch i chi am rannu eich amser a’ch profiadau gyda ni, byddwn yn talu costau rhesymol ac yn cynnig tystysgrif rhodd fach i’r rhai sy’n cymryd rhan. Cymerwch ychydig funudau i gwblhau ein holiadur sgrinio, a fydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod gennym ni ystod o wahanol straeon o bob cwr o Gymru. Unwaith y byddwn ni wedi adolygu’r rhain byddwn mewn cysylltiad!
Mae’r arolwg ar agor tan 30 Tachwedd 2023.